Teitl y grŵp trawsbleidiol: |
Y Lluoedd Arfog a’r Cadetiaid |
Dyddiad y cyfarfod: |
8 Mehefin 2023 |
Lleoliad: |
Cyfarfod Hybrid – HMS Cambria, Bae Caerdydd ac ar Microsoft Teams |
Enw: |
Teitl: |
Darren Millar AS |
Cadeirydd a’r Aelod dros Orllewin Clwyd |
Alun Davies AS |
Is-Gadeirydd a’r Aelod dros Flaenau Gwent |
Mark Isherwood AS |
Aelod dros Ogledd Cymru |
James Evans AS |
Yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed |
Laura Anne Jones AS |
Aelod dros Ddwyrain De Cymru |
Peter Fox AS (o bell) |
Yr Aelod dros Fynwy |
Y Brigadydd Jock Fraser |
Y Llynges Frenhinol |
Comodor yr Awyrlu Dai Williams (o bell) |
Yr Awyrlu Brenhinol |
Lefftenant-gyrnol Nicholas Lock OBE |
160fed Brigâd (Cymru) |
Cyrnol Sion Walker |
160fed Brigâd (Cymru) |
Jeremy Fowler |
Pennaeth Cangen Treftadaeth y Fyddin, y Weinyddiaeth Amddiffyn |
Rob Wilson |
Llywodraeth Cymru |
Peter Evans (o bell) |
Llywodraeth Cymru |
Adrian Leslie |
Y Lleng Brydeinig Frenhinol |
Cyrnol Dominic Morgan (o bell) |
Cymdeithas Lluoedd wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru (RFCA) |
Millie Taylor |
Cynorthwyydd Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru |
Joanna Wolfe |
Cynorthwydd Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru |
Emilee Kinsey |
Cynorthwydd Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru |
Y Cynghorydd Teresa Heron |
Hyrwyddwr Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog (Caerffili) |
Lisa Rawlings |
Swyddog Cyswllt Cyfamod y Lluoedd Arfog (Gwent) |
Tina Foster (o bell) |
TGP Cymru |
Will Peltor (o bell) |
160fed Brigâd (Cymru) |
Beth Taylor |
Staff Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig |
Tom Livesey |
Staff Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig |
Tara Moorcroft (o bell) |
Swyddfa Darren Millar |
Charlotte Raymond |
Swyddfa Darren Millar |
Enw: |
Teitl: |
Sam Rowlands AS |
Aelod dros Ogledd Cymru |
Samuel Kurtz AS |
Yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro |
Llyr Gruffydd AS |
Aelod dros Ogledd Cymru |
Jack Sergeant AS |
Yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy |
Mike Hedges AS |
Yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe |
Joel James AS |
Aelod dros Ganol De Cymru |
Rhianon Passmore AS |
Yr Aelod dros Islwyn |
Cyrnol James Phillips |
Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru |
Graham Jones |
Woody's Lodge |
Abigail Warburton |
Swyddog Cyswllt Cyfamod y Lluoedd Arfog (Dwyrain De Cymru) |
Andy Jones |
Swyddog Cyswllt Cyfamod y Lluoedd Arfog (Powys) |
Zoe Roberts |
Cyfamod y Lluoedd Arfog ac Arweinydd Cydweithredol Gofal Iechyd i Gyn-filwyr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Y Cynghorydd Andrew Barry |
Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful |
Y Cynghorydd David Evans |
Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Sir y Fflint |
Y Cynghorydd Glyn Haynes |
Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Sir Ynys Môn |
Y Cynghorydd Paul Hinge |
Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Sir Ceredigion |
Y Cynghorydd Philip Hughes |
Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Sir Caerfyrddin |
Y Cynghorydd Julie Matthews |
Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Sir Ddinbych |
Y Cynghorydd Elizabeth Roberts |
Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy |
Y Cynghorydd Delyth Williams |
Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Gwynedd |
Y Cynghorydd Eddie Williams |
Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Bro Morgannwg |
1. Cyflwyniad ac ymddiheuriadau.
2. Diweddariadau. • Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau newydd i’r Grŵp. • Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg o'r ymateb gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) – a dderbyniwyd ac a rannwyd gydag aelodau – yn dilyn y cyfarfod diwethaf. • Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg o ymateb Llywodraeth Cymru ar ôl i Gwestiynau Seneddol Ysgrifenedig gael eu cyflwyno yn dilyn y cyfarfod diwethaf. • Talodd y Cadeirydd deyrnged i Ysgol Pen y Bryn, Bae Colwyn, wnaeth gael eu Gwobr Arian drwy raglen Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog. • Diweddarodd y Cadeirydd y grŵp i gynghori ei fod wedi gofyn i Lywodraeth Cymru – drwy Gwestiwn Llafar yn y Senedd – pa waith y maent yn ei wneud i hyrwyddo'r rhaglen yn fwy eang, er mwyn ennyn diddordeb ysgolion eraill. Cafwyd ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru. • Diolchodd Millie Taylor i'r Cadeirydd am godi hynny yn y Senedd, a llongyfarchodd Ysgol Pen y Bryn. • Dywedodd Mille Taylor y dylai arolygwyr Estyn adrodd ar blant milwyr mewn addysg, a’r camau a gymerir gan ysgolion er mwyn diwallu eu hanghenion, ond nid oeddent yn siŵr i ba raddau yr oedd hynny’n cael ei wneud. • Dywedodd Millie Taylor y byddai'n cynnal gwaith dilynol ar hyn gydag Estyn ac y bydd yn adrodd yn ôl i'r Grŵp Trawsbleidiol. • At hynny, bu Millie Taylor yn trafod yr angen am fwy o ymwybyddiaeth o’r cynllun yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, er mwyn annog cenhedloedd eraill y DU i'w fabwysiadu.
3. Trafodaeth ar Dreftadaeth Filwrol yng Nghymru gyda'r Cyrnol Sion Walker a'r Is-gyrnol Nicholas Lock, y ddau o 160fed Brigâd (Cymru). • Siaradodd y Cyrnol Sion Walker am Amgueddfa Frenhinol Cymru yn Aberhonddu, a'r angen i hyrwyddo'r hyn y maen nhw'n ei wneud. • Soniodd y Cyrnol Sion Walker bod llawer o ddarnau milwrol sydd ddim yn cael eu harddangos yng Nghymru ar hyn o bryd oherwydd diffyg Amgueddfa Filwrol Genedlaethol. • Canmolodd y Cyrnol Sion Walker yr arddangosfa deithiol ar gyfer Brwydr Prydain gan y Llu Awyr Brenhinol. • Cyflwynodd y Cyrnol Sion Walker Jeremy Fowler, Pennaeth Treftadaeth y Fyddin yn y Weinyddiaeth Amddiffyn. Rhoddodd drosolwg o amgueddfeydd y fyddin ar draws y DU, yr effaith y mae colli cyllid wedi'i chael arnynt, a'r arddangosfeydd niferus y gellid eu datblygu ar gyfer eitemau sy'n cael eu storio ar hyn o bryd. • Dywedodd Jeremy Fowler eu bod yn gweithio ar ystorfa ganolog bosibl ar gyfer casgliadau dros dro, fel nad ydynt yn cael eu gwyrdroi neu ddiflannu'n unig. • Cafwyd trosolwg gan y Lefftenant-gyrnol Nicholas Lock o Amgueddfa Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru yng Nghaernarfon a Wrecsam, a'r heriau y maent yn eu hwynebu o ran cyllid. • Siaradodd y Brigadydd Jock Fraser am ei rôl mewn perthynas â threftadaeth yn y Llynges Frenhinol a chadarnhaodd ei gefnogaeth i drafodaethau parhaus ynglŷn â'r amgueddfa a drafodwyd i’r tri gwasanaeth. • Canmolodd y Cadeirydd arddangosfa’r Llu awyr ar Frwydr Prydain, siaradodd am yr amgueddfeydd cenedlaethol sydd yng Nghymru ar hyn o bryd, a phwysigrwydd cael amgueddfa filwrol genedlaethol i’r tri gwasanaeth yng Nghymru, yn enwedig o ystyried cyfraniad enfawr dynion a menywod y lluoedd arfog yng Nghymru i'r Lluoedd Arfog. • Yn ôl Rob Wilson o Lywodraeth Cymru, er bod y tîm yn gefnogol i dreftadaeth filwrol, mater i’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, a CADW, yw hwn. Dywedodd Rob y byddai'n hapus i fod yn rhan o drafodaethau pellach ynghylch treftadaeth filwrol. • Gofynnodd Laura Anne Jones AS beth yw'r allgymorth gydag ysgolion ynghylch yr amgueddfeydd. Anogodd Rob Wilson LAJ i fynd ar drywydd hyn gyda'r Gweinidog Addysg. Rhoddodd y Cyrnol Sion Walker y wybodaeth ddiweddaraf am y mod y maen nhw'n ymgysylltu ag ysgolion. • Yn ôl Comodor yr Awyrlu Dai Williams, bydd arddangosfa Brwydr Prydain yn cael ei harddangos yn barhaol yn RAF y Fali. Dywedodd Comodor yr Awyrlu Dai Williams ei fod wedi cael sgyrsiau gydag Amgueddfa Cymru, a rhannodd heriau y mae wedi'u hwynebu. • Gofynnodd Andy Jones pa effaith fyddai yna ar amgueddfeydd milwrol preifat. Awgrymodd y Cadeirydd y dylent fod yn rhan o drafodaethau ehangach. • Canmolodd yr Is-gadeirydd arddangosfa Brwydr Prydain, soniodd am ei brofiadau o ran ymweld ag amgueddfeydd a'r anhawster o gael mynediad atynt y tu allan i ranbarthau. • Esboniodd yr Is-gadeirydd yr angen am weledigaeth ar gyfer yr amgueddfa dreftadaeth filwrol – a'r hyn yr hoffai gael ei gyflawni – a mynegodd y gallai Llywodraeth Cymru ddarparu cyllid ar gyfer gwaith i roi'r weledigaeth yn ei chyd-destun. • Siaradodd y Brigadydd Jock Fraser am bwysigrwydd addysgu'r genhedlaeth iau a chenedlaethau’r dyfodol, a gwneud amgueddfeydd milwrol yn hygyrch. • Cafwyd sylw gan Millie Taylor am bwysigrwydd cael ysgolion i ddod yn gyfeillgar i'r lluoedd arfog, drwy ymgysylltu â'r lluoedd arfog, a theimlai fod y sgwrs yn cysylltu â'r gwaith y mae Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru wedi bod yn ei wneud. • Soniodd y Cynghorydd Teresa Heron fod grantiau ar gael gan y Lleng Brydeinig Frenhinol i athrawon, i'w hannog i gefnogi dyddiau cofio a gofynnodd a ellid cyflwyno cynnig tebyg i Lywodraeth Cymru. • Cytunwyd y byddai'r Brigadydd Jock Fraser yn cysylltu â Chorfflu Meddygol yr Amddiffyn i sefydlu statws presennol Amgueddfa Meddygaeth Filwrol arfaethedig, a gynlluniwyd yn flaenorol ar gyfer Caerdydd. • Trafododd y Cadeirydd a oes digon yn cael ei wneud i goffáu treftadaeth filwrol Cymru dramor. • Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn cysylltu ymhellach â’r Lefftenant-gyrnol Nicholas Lock a Jeremy Fowler i archwilio sut y gellid gwella'r coffâd dramor.
4. Y wybodaeth ddiweddaraf am waith Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yng Nghymru gan Lisa Rawlinson, Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog Gwent: • Cafwyd trosolwg gan Lisa Rawlings o'r meysydd a gwmpesir gan bob un o Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yng Nghymru. • Yn ôl Lisa, mae disgwyl i Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog ddatblygu a chyfrannu at waith Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog o fewn eu grŵp o awdurdodau lleol. • Dywedodd Lisa fod Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog hefyd yn ymgysylltu ag aelodau o'r gymuned leol. • Cafwyd wybod gan Lisa fod Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yn darparu hyfforddiant i staff, cefnogi prosiectau lleol, helpu i gefnogi sectorau cyhoeddus eraill a chynorthwyo gyda chymorth cyflogaeth. • Rhoddodd Lisa drosolwg o rai digwyddiadau sydd wedi’u cynnal, a’r rheini fydd yn cael eu cynnal eleni. • Cafwyd rhagor o wybodaeth gan Lisa am Hybiau Cyn-filwyr a’r prosiectau y maent yn ymgymryd â nhw. Dywedodd fod 50-70 o aelodau, ar gyfartaledd, yn bresennol bob wythnos, a bod hybiau ar agor i gymuned y lluoedd arfog, nid cyn-filwyr yn unig. • Siaradodd Lisa am ddogfen Cyfeiriadur Cymorth y Lluoedd Arfog a chylchlythyr Cyfamod y Lluoedd Arfog, lle gall pobl hysbysebu a rhannu gwybodaeth. • Rhoddodd Lisa drosolwg o'r materion y mae Swyddogion Cymorth y Lluoedd Arfog yn eu hwynebu, gan gynnwys yr anghyfartaledd rhwng Byrddau Iechyd yng Nghymru, diffyg darpariaeth tai, diffyg gwybodaeth am Swyddogion Cymorth y Lluoedd Arfog a'r ansicrwydd o ran cyllid ar gyfer Swyddogion Cymorth y Lluoedd Arfog. At hynny, soniodd am y bylchau mewn gwasanaethau cyn-filwyr, yn dibynnu ar ranbarth. • Soniodd Lisa hefyd am y materion y mae cyn-filwyr benywaidd yn eu hwynebu gan gynnwys diffyg mentoriaid benywaidd sy’n gymheiriaid. Tynnodd sylw at y Gynghrair i Gyn-filwyr Benywaidd, a grëwyd i ddarparu cefnogaeth bellach i gyn-filwyr benywaidd. • Tynnodd y Cyrnol Sion Walker sylw at gynllun Menywod ym Maes Amddiffyn. • Siaradodd y Cadeirydd am y diffyg ymwybyddiaeth o GIG Cymru i Gyn-filwyr a’r modd y mae'r rhaglen Change Step wedi newid. • Dywedodd y Cadeirydd wrth y Grŵp Trawsbleidiol ei fod yn cael cyfarfod gydag Adferiad yn ystod yr wythnosau nesaf i drafod Change Step, a bydd yn adrodd yn ôl i'r Grŵp. • Tynnodd Laura Anne Jones a’r Brigadydd Jock Fraser sylw at bwysigrwydd Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yng Nghymru, a diolchodd iddynt am eu gwaith. • Soniodd Peter Evans o Lywodraeth Cymru am ddigwyddiadau cyflogaeth y Lluoedd Arfog a chadarnhaodd y bydd gwaith yn cael ei gynnal ar ddigwyddiad yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru ar gyfer 2024, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gefnogi gan y 160fed Brigâd (Cymru) a'r RFCA. • Yn ôl Peter Evans o Lywodraeth Cymru, mae rhywfaint o waith yn mynd rhagddo ynglŷn â deddfwriaeth digartrefedd, ac mae panel arbenigol wedi'i sefydlu gan Crisis Cymru. Mae Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog, ac elusennau o dan gadeiryddiaeth y Lleng Brydeinig Frenhinol, wedi cael cais i roi sylwadau. • Canmolodd yr Is-Gadeirydd waith y Grŵp Trawsbleidiol a ysbrydolodd y syniad o greu rôl Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog, a phwysigrwydd gwneud y swyddi'n rhai barhaol. • Soniodd Mark Isherwood am wasanaethau fel Adferiad a Woody's Lodge, a’r modd y mae Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yn eu cefnogi. Yn ogystal â hyn, cododd Mark bryderon ynghylch y cymorth sydd ar gael i weithwyr – er enghraifft, Byrddau Iechyd – i'w galluogi i gefnogi eu gweithwyr sy'n gyn-filwyr. • Cytunwyd y byddai'r Grŵp Trawsbleidiol yn ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y prinder ymwybyddiaeth am Gyn-filwyr GIG Cymru ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a'r angen am Hyrwyddwyr Cyfamod y Lluoedd Arfog ym mhob Bwrdd Iechyd.
5. Unrhyw fater arall
• Diolchodd y Cadeirydd i'r rheini oedd yn bresennol, ac edrych ymlaen at gydweithio â'r grŵp, wrth symud ymlaen. • Cafodd y grŵp wybod gan y Cadeirydd fod ymweliad Pennaeth y Staff Amddiffyn â'r Senedd – a drefnwyd ar gyfer 14 Mehefin – wedi'i ohirio, a bydd dyddiad newydd yn cael ei ddosbarthu maes o law. • Dywedodd y Cadeirydd wrth y grŵp y bydd Aelodau o’r Senedd yn ymweld â Chanolfan Alwadau Porth y Cyn-filwyr yn Nantgarw, bydd digwyddiad Diwrnod Milwyr Wrth Gefn yn cael ei gynnal yn y Senedd ar 21 Mehefin. At hynny, bydd Aelodau o’r Senedd yn mynd i safle’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan ym mis Gorffennaf fel rhan o Gynllun Lluoedd Arfog y Senedd. • Rhannwyd dyddiadau'r cyfarfodydd i ddod gyda'r grŵp. • Daeth y cyfarfod i ben gyda munud o dawelwch i goffáu'r 41 mlynedd ers bomiau Bluff Cove. |